Cefnogi’r economi leol, ranbarthol a chenedlaethol

Yn ogystal â chwarae rhan allweddol yn y gwaith o fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, bydd ein cynigion ar gyfer Prosiect Gwynt Alltraeth Mona yn datgloi manteision economaidd sylweddol, o ran y swyddi y byddwn yn eu creu a’r cyfleoedd cadwyn gyflenwi a fydd ar gael i fusnesau ledled Cymru a’r DU gyfan.

Bydd y prosiect yn cefnogi’r economi leol, ranbarthol a chenedlaethol mewn nifer o ffyrdd:

  • Cyfrannu at yr economi drwy fuddsoddi’n sylweddol, yn ogystal â chynnig cyfleoedd cyflogaeth a seilwaith newydd yn ystod pob cam o’r prosiect.
  • Parhau i gadw costau technoleg a datblygu i lawr er mwyn darparu ynni cost isel i ddefnyddwyr a darparu manteision cymunedol.

Porthladdoedd a harbwrs

Rydym yn ymgysylltu â phorthladdoedd a harbwrs o amgylch Môr Iwerddon a allai gefnogi gweithgareddau adeiladu ac yna gweithredu a chynnal a chadw’r ffermydd gwynt yn y pen draw.

Swyddi

Wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau’n fanylach, bydd graddfa’r hwb economaidd hwn yn dod yn gliriach – ond mae ein gwaith modelu wedi dangos y byddwn yn creu ac yn cefnogi tua 3,420 o swyddi i gyd yn ystod camau gwahanol ein prosiect. Mae hyn yn torri i lawr i:

  • 710 o swyddi yn ystod y gwaith cynllunio a dylunio, gan gynhyrchu cyflogau gwerth tua £19.7m bob blwyddyn*
  • 2,120 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu, gan gynhyrchu cyflogau gwerth tua £74.8m bob blwyddyn*
  • 590 o swyddi yn ystod gweithrediadau, gan gynhyrchu cyflogau gwerth tua £27.6m bob blwyddyn*

*Ffynhonnell: Oxford Economics

Cadwyn gyflenwi

Rydym yn gwybod bod prosiectau gwynt ar y môr yn dod â manteision sylweddol i’w cymunedau lleol ac rydym yn credu ei bod hi’n eithriadol o bwysig bod y gadwyn gyflenwi leol yn cyfrannu at y prosiect hwn hefyd. Rydym wedi lansio porth cyflenwyr pwrpasol lle gall cwmnïau lleol baru eu sgiliau ag anghenion y prosiectau. Mae’r porth yn galluogi cwmnïau o bob maint i gofrestru eu diddordeb ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Mae’r prosiect yn annog cyflenwyr yn y DU i gofrestru eu diddordeb yn www.enbw-bp.com/suppliers yn enwedig y rheini sydd â chysylltiadau ar draws Gogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr.