Croeso
Mae EnBW a bp yn falch o arwain datblygiad ffermydd gwynt Morgan a Mona – dwy fferm wynt ar y môr ym Môr Iwerddon. Mae’r prosiectau hyn yn helpu i gyflawni uchelgais y DU o gynhyrchu 50GW o bŵer o ynni gwynt ar y môr erbyn 2030.
Yma gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf am y ddau brosiect.
Mona
Mae dau gam cyntaf ein hymgynghoriad ar gyfer Mona bellach wedi dod i ben. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan a rhoi adborth am y cynigion hyd yn hyn.
Rydyn ni nawr yn ystyried yr holl adborth a gawsom yn ofalus, ochr yn ochr â rhagor o waith technegol ac asesiadau amgylcheddol. Byddwn yn darparu rhagor o ddiweddariadau wrth i’n gwaith fynd rhagddo, cyn unrhyw ymgynghori pellach.
Gallwch ddarganfod mwy am y cynigion:
- Lawrlwythiadau – lawrlwytho a gweld deunyddiau ein prosiect, a’r fideo o’n gweminar ymgynghoriad cam un
Morgan
Mae cam cyntaf ein hymgynghoriad ar gyfer Morgan nawr ar agor i gael adborth tan 13 Rhagfyr 2022. Fel rhan o’r ymgynghoriad, rydym yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus. Mae digwyddiadau fel hyn yn ffordd wych o gwrdd â’n tîm, dysgu am y prosiectau a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau hyn neu i roi adborth, gallwch wneud y canlynol:
- Ffoniwch: 0800 915 2493
- Ewch: www.morecambeandmorgan.com
- E-bost: info@morecambeandmorgan.com
- Post: Rhadbost MORECAMBE A MORGAN

Map dangosol yn dangos fferm wynt Mona a’r ardaloedd chwilio cwmpasu seilwaith ar y môr ac ar y tir
Pwy yw EnBW a bp?
Gwybodaeth am EnBW
Mae EnBW Energie Baden-Württemberg AG yn un o’r cwmnïau cyflenwi ynni mwyaf yn yr Almaen ac mae’n cyflenwi trydan, nwy, dŵr ac atebion ynni a gwasanaethau’r diwydiant ynni i oddeutu 5.5 miliwn o gwsmeriaid.
Mae gennym weithlu o dros 23,000 o weithwyr. Bydd hanner portffolio cynhyrchu EnBW yn cynnwys ynni adnewyddadwy erbyn 2025.
Mae ehangu rhagor ar ynni adnewyddadwy yn yr Almaen a marchnadoedd Ewropeaidd dethol yn elfen ganolog o strategaeth twf EnBW. Ers dechrau ei drawsnewidiad corfforaethol yn 2013, mae EnBW wedi llwyddo i fuddsoddi bron i €5 biliwn yn ei segment ynni adnewyddadwy. Bydd tua €4 biliwn arall yn cael ei fuddsoddi erbyn 2025, yn bennaf drwy ehangu ynni’r gwynt a’r haul ymhellach, sy’n golygu y bydd 50 y cant o bortffolio cynhyrchu EnBW yn cynnwys ynni adnewyddadwy.
Roedd EnBW ymhlith yr arloeswyr ym maes ynni gwynt ar y môr gyda’i fferm wynt ar y Môr Baltig, sef Baltig 1. Ym mis Ionawr 2020, dechreuodd y cwmni weithredu prosiect pŵer gwynt ar y môr mwyaf yr Almaen, EnBW Hohe See ac Albatros, gyda chapasiti cyfun o 609 megawat (MW).
Bydd fferm wynt ar y môr He Dreiht gyda chapasiti o tua 900MW yn cael ei chysylltu â’r grid yn 2025. Bydd He Dreiht yn gweithredu heb unrhyw gymorthdaliadau gan y wladwriaeth.
Ewch i wefan EnBW am ragor o wybodaeth.
Gwybodaeth am bp
Pwrpas bp yw ailddychmygu ynni ar gyfer pobl a’n planed.
Mae bp wedi nodi uchelgais i fod yn gwmni sero net erbyn 2050, neu’n gynt, a helpu’r byd i gyrraedd sero net. Yn ddiweddar, gwnaethom gyhoeddi ein strategaeth ar gyfer gwireddu’r uchelgais honno. Bydd y strategaeth hon yn trawsnewid bp o gwmni olew rhyngwladol sy’n cynhyrchu adnoddau – i gwmni ynni integredig sy’n darparu atebion i gwsmeriaid.
Mae gan bp fusnes gwynt sylweddol ar y tir yn UDA yn barod gyda chapasiti cynhyrchu gros o 1.7 GW, sy’n gweithredu naw ased gwynt ar draws y wlad.
Ewch i wefan bp am ragor o wybodaeth.
Delweddau
Nid oes penderfyniad wedi cael ei wneud eto ynghylch maint, nifer na lleoliad ein tyrbinau. Ond ar y cam cynnar hwn rydyn ni wedi creu delweddau 3D dangosol i ddangos golygfeydd posibl o ffermydd gwynt Mona a Morgan o amrywiaeth o leoliadau ar y tir.
Gweld y map