Ein cynigion
Bydd Prosiect Gwynt Alltraeth Mona yn cael ei leoli yn nwyrain Môr Iwerddon, 28.2km o arfordir Ynys Môn, 39.9km o arfordir gogledd-orllewin Lloegr, a 42.3km o Ynys Manaw.
Mae glanfa’r prosiect ger Llanddulas, Conwy ar arfordir Gogledd Cymru a bydd yn cysylltu ag is-orsaf bresennol y National Grid ym Modelwyddan, Sir Ddinbych.
Bydd y fferm wynt yn cynnwys hyd at 107 o dyrbinau gwynt, a fydd yn cynhyrchu oddeutu 1.5GW o drydan.
Pam mae angen ynni gwynt ar y môr arnom
Newid hinsawdd yw un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu’r byd. Mae'n effeithio ar bob gwlad ac mae'n rhaid i ni i gyd chwarae rhan wrth helpu i'w frwydro.
Gall y prosiect hwn chwarae rhan yn y gwaith o fynd i’r afael â thrawsnewid ynni drwy gynhyrchu ynni adnewyddadwy i gefnogi targedau Llywodraeth Cymru a’r DU.
Mae’r DU yn arweinydd byd mewn gwynt ar y môr ac mae’r moroedd o’n cwmpas yn ddelfrydol ar gyfer manteisio ar bŵer gwynt. Bydd ein prosiect yn weithredol erbyn 2030 a bydd yn chwarae rhan mewn trawsnewid ynni drwy’r canlynol:
- Cynhyrchu trydan carbon isel o fferm wynt ar y môr i gefnogi datgarboneiddio a diogelwch cyflenwad trydan Cymru a’r DU.
- Manteisio i’r eithaf ar y capasiti cynhyrchu o fewn cyfyngiadau’r safleoedd a’r seilwaith grid sydd ar gael.
- Cefnogi nod Llywodraeth Cymru i gynhyrchu ynni adnewyddadwy sy’n cyfateb i 70 y cant o ddefnydd Cymru erbyn 2030, fel y nodir yn y Cynllun Strategol Sero Net.
- Darparu swm sylweddol o ynni gwynt ar y môr i gefnogi targed Sero Net Llywodraeth y DU erbyn 2050 a’r ymrwymiad i ddarparu hyd at 50 gigawat (GW) o ynni gwynt ar y môr erbyn 2030.
- Cydfodoli a chydweithio â gweithgareddau, datblygwyr a gweithredwyr eraill er mwyn gallu cael cydbwysedd rhwng gwahanol ddefnyddwyr.
Bydd y prosiect hwn hefyd yn:
- Cyfrannu at gyflawni nodau Strategaeth Diogelwch Ynni’r DU.
- Cyfrannu at yr economi leol, ranbarthol a chenedlaethol drwy fuddsoddi’n sylweddol, yn ogystal â chynnig cyfleoedd cyflogaeth a seilwaith newydd yn ystod pob cam o’r prosiect.
- Parhau i gadw costau technoleg a datblygu i lawr er mwyn darparu ynni cost isel i ddefnyddwyr a darparu manteision cymunedol.
- Cyd-fynd â’r prif ffactorau sy’n sbarduno diweddariadau i bolisïau cenedlaethol yng Nghymru a’r DU sy’n digwydd ar hyn o bryd ac sydd ar y gweill.
Mae’r DU eisoes yn cynhyrchu tua 13GW o’i phŵer o ynni gwynt ar y môr. Mae’n chwarae rhan gynyddol bwysig yn ein cymysgedd ynni. Er enghraifft, am gyfnod ar 29 Ionawr 2022 roedd gwynt ar y môr yn darparu 66% o gyfanswm ein cynnyrch ynni.
Ond mae angen i ni wneud llawer iawn mwy. Er mwyn cyflawni nodau hinsawdd y DU, mae angen i ni gynyddu faint o ynni gwynt ar y môr rydym yn ei gynhyrchu bedair gwaith – sy’n golygu bod angen i ni osod a gweithredu capasiti hyd at 50GW erbyn 2030.
Sut mae ffermydd gwynt ar y môr yn gweithio
Beth yw generaduron tyrbinau gwynt?
Dyfeisiau yw’r rhain sy’n trosi egni cinetig gwynt yn egni trydanol. I gael rhagor o wybodaeth am ddyluniad tebygol y generaduron tyrbinau gwynt ar gyfer Prosiect Gwynt Alltraeth Mona, edrychwch ar Gyfrol 1 – Rhagarweiniad, pennod 3 (Disgrifiad o’r Prosiect) yr Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol.

Diagram dangosol o sut y gallai generadur tyrbin gwynt nodweddiadol edrych. Gall y dyluniad gwirioneddol fod yn wahanol.
Beth yw Platfformau Is-Orsaf ar y Môr (OSPs)?
Strwythurau sefydlog yw’r rhain a fyddai’n cael eu lleoli ar safle’r fferm wynt. Pwrpas y strwythurau hyn yw trosi’r pŵer o’r generaduron tyrbinau gwynt yn ffurf sy’n barod i’w throsglwyddo i’r lan.

Delwedd ddangosol yn dangos platfform is-orsaf ar y môr nodweddiadol. Gall y dyluniad gwirioneddol fod yn wahanol.
Beth yw ceblau cyswllt y platfform?
Mae’r rhain yn geblau trydanol sy’n cysylltu un neu fwy o blatfformau is-orsaf ar y môr.
Beth yw ceblau rhyng-aráe?
Ceblau yw’r rhain sy’n cysylltu generaduron y tyrbinau gwynt â’i gilydd ac â’r platfformau is-orsaf ar y môr.
Beth yw ceblau allforio o’r môr?
Ceblau yw’r rhain sy’n trosglwyddo trydan o’r platfformau is-orsaf ar y môr i’r lan.
Delweddau
Mae'r PEIR yn cynnwys cyfres o ddiagramau delweddu sy'n dangos sut y gallai'r fferm wynt edrych o wahanol fannau. Gallwch ddod o hyd iddynt yn y bennod Morlun, Tirlun ac Effaith Weledol (SLVIA).
Gweld delweddau