Nid oes penderfyniad wedi cael ei wneud eto ynghylch maint, nifer na lleoliad ein tyrbinau. Ond ar y cam cynnar hwn rydyn ni wedi creu delweddau 3D dangosol i ddangos golygfeydd posibl o ffermydd gwynt Mona a Morgan o amrywiaeth o leoliadau ar y tir. Cliciwch ar y saethau i weld fideos sy’n dangos golygfeydd yn ystod y dydd a’r nos. Rydym yn dangos yr awyr mewn amodau cymylog gan mai hyn sy’n rhoi y cyferbyniad mwyaf clir gyda’r tyrbinau gwynt.