Adeiladu

Bydd y gwaith o adeiladu’r prosiect yn cynnwys technegau peirianneg manwl ac arbenigol. Amlinellir y prif egwyddorion isod.

Tyrbinau gwynt

Rydym yn cynnig defnyddio generaduron tyrbinau gwynt â thri llafn arnyn nhw. Bydd y rhain yn cynnwys yr elfennau canlynol:

  • Rotorau, gan gynnwys llafnau a both (yn cysylltu’r llafnau â’r siafft a’r system gyriant).
  • Nasél, sy’n dal y generadur trydan, yr electroneg rheoli a’r system gyriant.
  • Cefnogaeth strwythurol, sy’n cynnwys tŵr tiwb dur ar ben strwythur sylfaen.

Cynllun a dyluniad y fferm wynt

Mae union gynllun y generaduron tyrbinau gwynt yn dal i gael ei ddatblygu ac ni fydd yn cael ei gwblhau’n derfynol nes bydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net wedi rhoi caniatâd i’r prosiect.

Bydd generaduron tyrbinau gwynt yn cael eu gosod mewn rhesi. Bydd bwlch o 875 metr o leiaf rhwng pob generadur tyrbin gwynt unigol mewn rhes. Bydd bwlch o 1000 metr o leiaf rhwng pob rhes o eneraduron tyrbinau gwynt.

Efallai y bydd llefydd gwag ar safle’r fferm wynt. Gall hyn fod oherwydd rhai amodau llai ffafriol ar wely’r môr neu, er enghraifft, oherwydd bod angen i ni gadw draw oddi wrth seilwaith presennol.

Cysylltu rhwng y môr a’r tir – Pyrth Cysylltu Trosiannol

Bydd y ceblau allforio o’r môr yn cysylltu â’r ceblau allforio ar y tir mewn hyd at bedwar porth cysylltu trosiannol.

Bydd y pyrth cysylltu trosiannol ar y tir yn uwch na Phenllanw Cymedrig y Gorllanw ar dir amaeth i’r de o’r A547.

Ffeithiau cyflym: generaduron tyrbinau gwynt

Mae’r wybodaeth isod yn seiliedig ar y ddealltwriaeth gyfredol a gellir ei mireinio ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben a chyn cyflwyno ein cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu. Mae’r niferoedd hyn yn seiliedig ar dybio y cynhyrchir 1.5GW o drydan.

  • Nifer arfaethedig o eneraduron tyrbinau gwynt: hyd at 107
  • Diamedr y rotor arfaethedig: rhwng 250 a 280 metr
  • Uchder arfaethedig y generaduron tyrbinau gwynt i’r brig: rhwng 293 a 324 metr uwchlaw’r distyll astronomegol isaf
  • Cliriad arfaethedig y rotor uwchlaw’r distyll astronomegol isaf: 34 metr

Ffeithiau cyflym: platfformau is-orsaf ar y môr

  • Uchafswm arfaethedig nifer y platfformau is-orsaf ar y môr: 4
  • Lled mwyaf y rhan uchaf arfaethedig (mae ‘rhan uchaf’ yn golygu’r prif strwythur ar ben y strwythur sylfaen, uwchlaw arwyneb y môr): 60 metr
  • Hyd mwyaf y rhan uchaf arfaethedig: 80 metr
  • Pwynt uchaf y rhan uchaf arfaethedig (uwchlaw’r distyll astronomegol isaf), heb gynnwys y lanfa i hofrenyddion a’r deunydd amddiffyn rhag mellt: 70 metr

Ceblau ar y tir

Bydd Coridor Ceblau Ar y Tir Mona oddeutu 18km o hyd a bydd y ceblau’n cael eu claddu o dan y ddaear. Wrth ddylunio’r llwybr, byddwn yn ystyried lle mae angen croesi o dan nodweddion fel piblinellau, draeniau tir, priffyrdd neu afonydd. Efallai y bydd Coridor Ceblau Ar y Tir Mona hyd at 100m o led (gan gynnwys y lled adeiladu dros dro) er mwyn gallu gosod hyd at bedair cylched cebl, ond rydym yn disgwyl y bydd y lled hwn yn llai mewn rhai ardaloedd cyn i ni gyflwyno ein cais, yn dilyn rhagor o arolygon ac astudiaethau.

Ar ôl cwblhau a chomisiynu’r gwaith gosod ceblau, bydd y ffordd gludo dros dro yn cael ei thynnu a’r tir yn cael ei adfer gan ddefnyddio isbridd ac uwchbridd a oedd wedi’u cadw. Bydd yr holl gompowndiau adeiladu dros dro a ffensys dros dro yn cael eu tynnu, bydd trefniadau draenio a/neu ddyfrhau caeau yn cael eu hadfer a bydd y tir yn cael ei adfer i’w gyflwr gwreiddiol. Lle bo’n ymarferol, ystyrir adfer rhannau o goridor ceblau ar y tir Mona yn gynnar.

Bydd gwrychoedd yn cael eu hailblannu gan ddefnyddio rhywogaethau brodorol lleol, lle bo hynny’n ymarferol. Defnyddir contractwyr cymwys a phrofiadol i wneud y gwaith adfer, a fydd yn golygu adfer y gwrych i gyfateb i’r gwrychoedd sy’n weddill ym mhob lleoliad. Lle bo’n briodol, efallai y bydd rhywfaint o welliannau (fel plannu rhywogaethau addas ychwanegol) yn cael eu gwneud.

Is-orsaf ar y tir

Bydd angen compownd adeiladu ger is-orsaf ar y tir Mona. Bydd y compownd wedi’i leoli yn Ardal Ddatblygu Arfaethedig ar y Tir Mona a bydd yn cynnwys swyddfeydd, cyfleusterau lles, lle i storio offer a chyfarpar a mannau parcio ar gyfer staff adeiladu.

Rhagwelir y bydd mynediad adeiladu i safle’r is-orsaf ar y tir yn defnyddio’r llwybr mynediad parhaol arfaethedig, er y gellir defnyddio arwyneb dros dro yn ystod y cam adeiladu. Bydd angen gosod y llwybr mynediad hwn yn gynnar yn y broses adeiladu.

Mae is-strwythurau adeiladu’r is-orsaf ar y tir yn debygol o gynnwys deunyddiau cladin a dur. Bydd y gwaith dur strwythurol yn cael ei saernïo a’i baratoi oddi ar y safle ac yn cael ei ddanfon i’r safle i’w adeiladu.

Bydd Cynllun Rheoli Tirwedd, Ecoleg a Hydroleg yn cael ei baratoi ar gyfer safle’r is- orsaf ar y tir a fydd yn nodi’r mesurau lliniaru ar gyfer sgrinio, cynefinoedd ecolegol a rheoli dŵr ffo wyneb. Bydd hwn yn cael ei gyflwyno gyda’r cais am gydsyniad.

Cyn dechrau ein holl waith ar y tir, bydd nifer o arolygon ac astudiaethau cyn adeiladu yn cael eu cynnal i roi gwybodaeth i’r timau dylunio wrth ddatblygu’r dyluniad terfynol, gan gynnwys:

  • Gwaith archaeolegol cyn adeiladu
  • Arolygon ecolegol cyn y cam adeiladu
  • Ymchwiliadau geodechnegol
  • Astudiaethau draenio

Cod Ymarfer Adeiladu

Bydd yr holl waith adeiladu’n cael ei wneud yn unol â Chod Ymarfer Adeiladu. Bydd y Cod Ymarfer Adeiladu yn amlinellu’r mesurau rheoli pwysig y byddwn yn gofyn i’n holl gontractwyr eu mabwysiadu a’u rhoi ar waith ar gyfer yr holl waith adeiladu perthnasol ar gyfer elfennau ar y tir Prosiect Gwynt Alltraeth Mona.

Bydd y Cod Ymarfer Adeiladu yn cael ei ddatblygu drwy drafod â’n rhanddeiliaid. Bydd yn parhau i fod yn ddogfen ddrafft yn ystod ein hymgynghoriad, ein cam ymgeisio a thrwy gydol y broses Archwilio, a bydd yn cael ei chwblhau pan fydd gennym ddyluniad manwl ar ôl cael cydsyniad.

Bydd gweithrediad y Cod Ymarfer Adeiladu yn cael ei sicrhau drwy ofynion y Gorchymyn Cydsyniad Datblygu.

Adolygu adborth