Camau nesaf

Daeth ein hymgynghoriad statudol ar ein cynigion diweddaraf i ben ar 4 Mehefin 2023. Byddwn nawr yn ystyried yr holl adborth a gawsom ochr yn ochr â gwneud rhagor o waith ar yr elfennau technegol, peirianneg ac amgylcheddol.

Ein nod yw paratoi ein cais DCO i'w gyflwyno i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net. Disgwyliwn gyflwyno ein cais yn gynnar yn 2024.

Amserlen Ddangosol (a gyhoeddwyd yn 2022)

2023

  • Gwanwyn 2023 Ail gam yr ymgynghoriad (statudol)

2024

  • Ch1 2024 Cyflwyno ceisiadau ar gyfer Gorchymyn Cydsyniad Datblygu a thrwyddedau eraill.

2025

  • Disgwyl penderfyniad ar y Gorchymyn Cydsyniad Datblygu gan yr Ysgrifennydd Gwladol

2026

  • Disgwyl y Penderfyniad Buddsoddi Terfynol.

2027

  • Dechrau adeiladu.

2028/29

  • Dyddiad dechrau disgwyliedig – Dyddiad Gweithredu Masnachol.