Ein gwaith hyd yma
Sut rydym wedi datblygu ein cynigion
Ein gwaith ers ein hymgynghoriad anstatudol cyntaf yn 2022
Rydym wedi bod yn cynnal asesiadau ar draws amrywiaeth o feysydd er mwyn deall yn well yr ardal y gallem weithio ynddi ac effeithiau posibl Prosiect Gwynt Alltraeth Mona. Mae hyn yn cynnwys gwaith i ddeall dyluniad arfaethedig y prosiect yn well a sut gellid ei adeiladu. Rydym yn rhoi trosolwg yma o rywfaint o’r gwaith arall rydym wedi bod yn ei wneud.
Cofiwch nad yw’r wybodaeth yn gwbl gynhwysfawr nac yn cynrychioli’r holl waith rydym wedi’i wneud. Mae rhagor o wybodaeth fanwl am yr holl asesiadau rydym wedi’u cynnal a’r canlyniadau dilynol ar gael yn ein Hadroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol.
Ein Hadroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol
Cyhoeddwyd Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol i gefnogi’r ymgynghoriad statudol. Mae hwn yn ofyniad statudol yn y broses Gorchymyn Cydsyniad Datblygu, ac mae’n cyflwyno canfyddiadau rhagarweiniol ein hasesiadau amgylcheddol, gan gynnwys effeithiau amgylcheddol tebygol y prosiect a sut gellid eu lliniaru.
Rydym nawr yn edrych ar yr adborth a ddaeth yn sgil yr ymgynghoriad, ac yn gwneud rhagor o waith technegol, i’n helpu i fireinio ein cynlluniau a datblygu ein Datganiad Amgylcheddol, a fydd yn rhan bwysig o’n cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu.
Ystyriaethau amgylcheddol
Bydd Prosiect Gwynt Alltraeth Mona yn arwain at fanteision amgylcheddol hirdymor cadarnhaol drwy gynhyrchu ynni i ddarparu ynni adnewyddadwy i gartrefi. Fodd bynnag, rydym yn sylweddoli y gall unrhyw ddatblygiad seilwaith mawr arwain at effeithiau tymor byr, ac mae’n bwysig bod yr effeithiau hyn yn cael eu nodi, eu rheoli, eu lliniaru neu, os yw’n bosibl, eu hosgoi.
Ym mis Mai 2022 fe wnaethom gyhoeddi Adroddiad Cwmpasu a oedd yn amlinellu’r hyn roeddem yn ei ddeall, ar y pryd, fel effeithiau tebygol y prosiect ar yr amgylchedd a sut byddem yn eu hasesu.
Ar ôl cyhoeddi ein Hadroddiad Cwmpasu, cawsom Farn Gwmpasu’r Ysgrifennydd Gwladol, a ddarparwyd ym mis Mehefin 2022. Mae ein Hadroddiad Cwmpasu ar gael i’w ddarllen yma.
Ers derbyn y Farn Gwmpasu, rydym wedi bod yn cynnal amrywiaeth o asesiadau amgylcheddol er mwyn deall effeithiau posibl y prosiect yn well. Rydym hefyd wedi ymgysylltu â chyrff statudol, gan gynnwys y Sefydliad Rheoli Morol, i ddeall mewn rhagor o fanylder y maes rydym yn bwriadu gweithio ynddo.
Ym mhennod 5 ein Hadroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol, rydym wedi nodi sut rydym wedi mynd i’r afael â’r sylwadau sydd wedi’u cynnwys yn y Farn Gwmpasu.