Pysgodfeydd masnachol, morgludiant a mordwyo

Rydym wedi cynnal amrywiaeth o asesiadau yn ardal ein hastudiaeth i weld sut gallai safle ein fferm wynt arfaethedig effeithio ar bysgodfeydd masnachol, morgludiant a mordwyo.

Isod, rydym wedi rhoi trosolwg o ganlyniadau’r asesiadau hyn. Mae rhagor o wybodaeth fanwl am yr holl asesiadau rydym wedi’u cynnal a’r canlyniadau dilynol ar gael ym mhennod 11 ein Hadroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol.

Pysgodfeydd masnachol

Yn ystod cam gweithredu a chynnal a chadw Prosiect Gwynt Alltraeth Mona, canfu ein hasesiadau amrywiaeth o effeithiau ar bysgodfeydd masnachol, gyda’r mwyafrif yn ‘fach iawn’ neu’n ‘is’ ac ‘yn anarwyddocaol’.

Bydd y prosiect yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid yn y rhanbarth sy’n ymwneud â physgodfeydd masnachol ac yn ystyried sut gall Prosiect Gwynt Alltraeth Mona leihau unrhyw effeithiau posibl ymhellach.

Morgludiant a mordwyo

Datblygwyd gwaelodlin morgludiant a mordwyo drwy adolygu cyhoeddiadau perthnasol, casglu a dadansoddi data am draffig llongau a digwyddiadau’n ymwneud â llongau yn hanesyddol, ac ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol. Mae Prosiect Gwynt Alltraeth Mona wedi’i leoli mewn ardal sy’n cael ei defnyddio’n aml gan amrywiaeth o wahanol ddefnyddwyr morol.

Nodwyd rhai effeithiau posibl ar forgludiant a mordwyo, sy’n gysylltiedig â chamau adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw, a datgomisiynu Prosiect Gwynt Alltraeth Mona.

Mae’r effeithiau a aseswyd yn cynnwys: effeithiau ar lwybr llongau, effeithiau ar weithrediadau porthladd, effeithiau ar ddiogelwch mordwyo ac effeithiau ar ymateb i argyfwng. Gyda’r mesurau a fabwysiadwyd fel rhan o Brosiect Gwynt Alltraeth Mona (er enghraifft, llongau gwarchod) ar waith, mae’r rhan fwyaf o’r effeithiau hyn yn arwain at effeithiau nad ydynt yn ‘arwyddocaol’ o ran cynllunio.

Pan fydd mwy o risgiau ‘arwyddocaol’ yn cael eu nodi, rydym wedi ymrwymo i archwilio dulliau rheoli risg ychwanegol drwy gyfrwng astudiaethau pellach ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i sicrhau eu bod yn briodol ac yn ddigonol ar gyfer lleihau risgiau i ‘mor isel ag sy’n rhesymol ymarferol’ (ALARP) cyn cyflwyno’r cais. Bydd mesurau rheoli risg priodol wedyn yn cael eu sicrhau drwy unrhyw ganiatâd a roddir i’r prosiect.