Camau nesaf
Daeth ein hymgynghoriad statudol ar ein cynigion diweddaraf i ben ar 4 Mehefin 2023. Byddwn nawr yn ystyried yr holl adborth a gawsom ochr yn ochr â gwneud rhagor o waith ar yr elfennau technegol, peirianneg ac amgylcheddol.
Ein nod yw paratoi ein cais DCO i'w gyflwyno i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net. Disgwyliwn gyflwyno ein cais yn gynnar yn 2024.
Amserlen Ddangosol (a gyhoeddwyd yn 2022)
2023
- Gwanwyn 2023 Ail gam yr ymgynghoriad (statudol)
2024
- Ch1 2024 Cyflwyno ceisiadau ar gyfer Gorchymyn Cydsyniad Datblygu a thrwyddedau eraill.
2025
- Disgwyl penderfyniad ar y Gorchymyn Cydsyniad Datblygu gan yr Ysgrifennydd Gwladol
2026
- Disgwyl y Penderfyniad Buddsoddi Terfynol.
2027
- Dechrau adeiladu.
2028/29
- Dyddiad dechrau disgwyliedig – Dyddiad Gweithredu Masnachol.