Sut i ddefnyddio ein map ymgynghori
Cofrestru
I roi eich adborth i ni ar y prosiect, bydd angen i chi gofrestru. Rhowch eich enw, e-bost, a chod post i ni a dywedwch wrthym os ydych yn ymateb ar ran sefydliad neu fel unigolyn.

Anfonir e-bost atoch i gadarnhau pwy ydych. Cliciwch ar y ddolen yn yr e-bost i gadarnhau. Os nad ydych wedi mewngofnodi'n awtomatig, cliciwch ar mewngofnodi.
Cliciwch yma i weld ein Polisi GDPR ar sut rydym yn rheoli data ar gyfer y prosiect hwn.
Mewngofnodi
Ewch i'r dudalen mewngofnodi a rhowch eich e-bost a'ch cyfrinair.
Anfonir e-bost atoch i gadarnhau pwy ydych. Cliciwch ar y ddolen yn yr e-bost i gadarnhau. Os nad ydych wedi mewngofnodi'n awtomatig, cliciwch ar mewngofnodi.
Cliciwch yma i weld ein Polisi GDPR ar sut rydym yn rheoli data ar gyfer y prosiect hwn.

Ychwanegwch eich adborth
Gallwch glosio a symud y map o gwmpas i'r lleoliad yr hoffech adael adborth amdano.

Cliciwch ar y map a bydd panel yn popio allan i adael i chi adael sylw yn y pwynt hwnnw.

Gallwch ddewis y ‘thema’ sy’n cyfateb agosaf i’r pwynt rydych chi am ei wneud i ni. Os nad yw'ch sylw yn cyd-fynd â thema dewiswch 'Nid yw'n berthnasol i unrhyw un o'r themâu hyn'.
Teipiwch eich sylw yn y blwch testun. Os hoffech roi adborth hir (mwy na 1000 o nodau), ysgrifennwch eich sylw mewn dogfen, h.y. Word, a’i llwytho fel atodiad ar waelod y dudalen.
Cliciwch ar ‘Ychwanegu fy sylw’ i ychwanegu eich adborth at y map. Bydd eich pwyntydd yn ymddangos ar y map. Mae hyn yn bwysig gan na fydd eich sylw yn cael ei gofrestru oni bai eich bod yn clicio yma i'w anfon atom.
Sylwer: Ni allwch olygu sylw ar ôl iddo gael ei gyflwyno. Os hoffech adael adborth ychwanegol, ychwanegwch sylw pellach.
Nodweddion
Amlinelliad y prif gynllun a phlotio’ch lleoliad
Gallwch droi graffig y prif gynllun ymlaen ac i ffwrdd trwy glicio ar yr eicon haenau a dewis ‘Dangos amlinelliad o’r prif gynllun’. Gallwch hefyd nodi'ch cod post a phlotio'ch cartref ar y map i weld pa mor agos ydych chi i'r ardal (sylwer nad oes modd gweld lleoliadau sydd ymhellach na 2km o'r ardal ymgynghori).

Golwg rhestr
Gallwch weld rhestr o’ch holl adborth naill ai ar y map neu drwy ddefnyddio’r ‘golwg rhestr’:

Gwedd hidlo
Gallwch hidlo sylwadau adborth yn ôl thema os gwnaethoch chi neilltuo rhai.

Adborth
Gallwch adael adborth drwy ddefnyddio’r map ymgynghori isod. Neu gallwch hefyd lenwi ffurflen adborth arlein yma.
Rhaid i bob ymateb i'r ymgynghoriad hwn ddod i law erbyn 23.59 ar 4 Mehefin 2023. Mae'n bosibl na fydd ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried.
Map ymgynghori