Dweud eich dweud

Mae gan bobl leol, gan gynnwys preswylwyr, cynrychiolwyr etholedig lleol a rhanddeiliaid eraill, rôl bwysig iawn i’w chwarae drwy gydol yr ymgynghoriad hwn.

Mae angen eich barn a’ch gwybodaeth arnom wrth i ni weithio ar ddatblygu ein cynigion yn barod ar gyfer cyflwyno ein cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu.

Bydd yr ymgynghoriad statudol hwn yn para o 19 Ebrill tan 4 Mehefin 2023.

Gallwch ddod i wybod mwy am Brosiect Gwynt Alltraeth Mona yn un o’n digwyddiadau ymgynghori.

Mae’r digwyddiadau hyn yn ffordd wych o ddysgu am ein prosiect, cwrdd â thîm y prosiect a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.

Mae digwyddiadau ymgynghori wyneb yn wyneb yn ddigwyddiadau ‘galw heibio’, sy’n golygu y gallwch alw draw unrhyw bryd i ddysgu mwy a siarad â ni.

Mae digwyddiadau ‘achlysurol’, llai yn cael eu cynnal mewn ardaloedd lle mae nifer mawr o bobl. Mae’r digwyddiadau hyn yn llai ond yn dal yn gyfle gwych i siarad ag aelod o’r tîm a dysgu mwy.

Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiad ar-lein ar ffurf gweminar. Cynhelir y digwyddiad hwn ar Zoom a bydd yn cynnwys cyflwyniad gan dîm y prosiect a sesiwn holi ac ateb.

Digwyddiadau ymgynghori

Digwyddiadau ‘galw heibio’ yw’r rhain, sy’n golygu y gallwch alw draw unrhyw bryd rhwng yr oriau a nodir isod. Bydd deunyddiau print ar gael i edrych arnynt a bydd aelodau o dîm y prosiect yno y gallwch eu holi er mwyn dod i wybod mwy.

Lleoliad Dyddiad Amser
Neuadd Bentref Llanddulas
Beulah Avenue, Llanddulas, Abergele LL22 8FH
lau 4 Mai 3pm hyd 7pm
Eglwys Sant Asa Llanelwy
1 Stryd Fawr, Llanelwy LL17 0RG
Gwe 5 Mai 3pm hyd 6pm
Neuadd y Dref Ramsey
Parliament Square, Ramsey, Ynys Manaw IM8 1RT
lau 18 Mai 3pm hyd 7pm
Neuadd Bentref Bodelwyddan
Ronaldsway, Bodelwyddan, Y Rhyl LL18 5TE
Gwe 19 Mai 3pm hyd 7pm
Cyngor Bwrdeistref Douglas
Neuadd y Dref Douglas, Ridgeway Street, Douglas, Ynys Manaw IM99 1AD
Gwe 19 Mai 3pm hyd 7pm
Neuadd Owen
Cefn Meiriadog, Llanelwy LL17 0EY
Sad 20 Mai 10am hyd 1pm

Digwyddiadau achlysurol

Mae’r digwyddiadau ‘achlysurol’ yn cael eu cynnal mewn ardaloedd lle mae nifer mawr o bobl. Mae’r digwyddiadau hyn yn llai ond yn dal yn gyfle gwych i gwrdd â’r tîm a gofyn unrhyw gwestiynau.

Lleoliad Dyddiad Amser
Llyfrgell Llandudno
Stryd Mostyn, Llandudno LL30 2RP
Mer 3 Mai 2pm hyd 5pm
Canolfan Groeso’r Rhyl
Y Pentref Plant, Promenâd y Gorllewin Y Rhyl LL18 1HZ
lau 4 Mai 10am hyd 1pm
Llyfrgell Amlwch
Ffordd Parys, Amlwch LL68 9AB
Sad 6 Mai 10am hyd 12pm

Digwyddiad ar-lein

Os na allwch ddod i ddigwyddiad yn y gymuned, gallwch gofrestru ar gyfer ein digwyddiad ar-lein.

Lleoliad Dyddiad Amser
Cynhelir y digwyddiad hwn ar Zoom
Cliciwch i Gofrestru Yma
Maw 9 Mai 6pm hyd 7pm
Adolygu adborth